Prentisiaethau. Penderfyniad Clodwiw.
Mae prentisiaethau yn opsiwn cyffrous – rydych chi'n cael hyfforddiant ymarferol a hefyd y cyfle i roi eich sgiliau ar waith.
Mae prentisiaethau yng Nghymru yn swyddi sy'n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Rydych chi'n ennill cyflog tra'ch bod chi'n gweithio ac yn dysgu.
Mae prentisiaethau ar gael mewn amrywiaeth eang o swyddi ac yn caniatáu ichi ennill profiad ymarferol a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich maes dewis.




